SL(6)345 – Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Absenoldeb Profedigaeth Rhiant ac Absenoldeb Rhiant a Rennir) 2023

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae Rheoliadau 2015 yn darparu na chaiff person gyflawni gwaith penodedig mewn ysgol oni bai ei fod yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig neu’n bodloni’r gofynion yn o leiaf un o’r paragraffau yn Atodlen 3. Gall gweithwyr cymorth dysgu hefyd gyflawni gwaith penodedig mewn ysgol os ydynt yn bodloni’r amodau a nodir yn rheoliad 18A.

Mewn rhai amgylchiadau, gall person gyflawni “gwaith penodedig” dim ond am gyfnod penodedig heb ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig. Ar hyn o bryd, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn ymestyn y cyfnod penodedig mewn amgylchiadau lle mae person yn absennol o’r gwaith o ganlyniad i arfer ei hawl i un o’r hawliau statudol a restrir, sef absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant, absenoldeb tadolaeth ac absenoldeb  mabwysiadu. Mae’r Rheoliadau’n diwygio Rheoliadau 2015 i ychwanegu absenoldeb profedigaeth rhiant ac absenoldeb rhiant a rennir at y rhestr hon. 

Y drefn

Negyddol

Cafodd y Rheoliadau eu gwneud gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Craffu Technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:

Nid yw Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn gosod unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori mewn perthynas â’r rheoliadau diwygio arfaethedig. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n agos â Chyngor y Gweithlu Addysg wrth lunio’r rheoliadau diwygio hyn.   Ni chynhaliwydymgynghoriad ffurfiol gan nad yw hwn yn bolisi sy’n cael ei ddatblygu, ondyn hytrach yn offeryn i wneud diwygiadau canlyniadol priodol i Reoliadau2015 yn dilyn gwneud Deddf Plant a Theuluoedd 2014 a DeddfProfedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

17 Ebrill 2023